Mae dyn digartre’ a gafodd ei ganfod wedi’i drywanu nifer o weithiau, mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Roedd y dyn 40 oed wedi bod yn cysgu ar fatres yn ardal King’s Bastion, Gillingham, pan ddaeth rhywun ac ymosod arno, meddai Heddlu Kent.
Fe gafodd ei gludo i ysbyty yn Llundain wedi i aelod o’r cyhoedd ddod o hyd iddo tua 8 o’r gloch y bore, ddoe.
“Fe ddigwyddodd y trywanu yng nghefn dydd golau,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Kent wrth apelio ar i dystion ddod ymlaen gydag unrhyw wybodaeth.