David Markey
Mae yna bryderon am bensiynwr o Gaerfyrddin sydd wedi bod ar goll ers tridiau.
Does neb wedi gweld David Markey, 72, o Dregynnwr, ers bore Sadwrn diwetha’.
Bryd hynny, roedd yn ardal pont Pensarn yng Nghaerfyrddin, yn gwisgo siaced o liw hufen, trowsus golau a threnyrs am ei draed.
Mewn disgrifiad ohono, mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud ei fod yn 5 troedfedd 5 modfedd o daldra, o gorffolaeth nobl, gyda gwallt brith. Y gred ydi ei fod yn cario bag plastig.