Mae 50 o deithwyr wedi dianc yn ddianaf, wedi i’r bws yr oedden nhw’n teithio ynddo droi drosodd ar draffordd yr M5.
Mae gyrrwr y cerbyd wedi diodde’ anaf i’w gefn yn y ddamwain a ddigwyddodd rhwng cyffyrdd 13 ac 14 ger Dursley yn Swydd Gaerloyw.
Fe gafodd Heddlu Sir Gaerloyw eu galw toc cyn 10 o’r gloch heddiw, wedi i’r bws droi drosodd a glanio mewn ffos ar fin y draffordd.
Mae cerbydau eraill wrthi’n cario teithwyr o’r fan.