Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o ymosod ar yr heddlu, yn dilyn protest ynglyn â Gaza o flaen siop Tesco yng nghanolbarth Lloegr.

Fe fydd Naveed Zafar yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Birmingham i ateb dau gyhuddiad o ymosod, tri chyhuddiad o ymosod ar blisman, a chyhuddiad pellach o rwystro’r heddlu.

Daw hyn yn sgil ffrwgwd y tu allan i siop Tesco yn ardal Hodge Hill o’r ddinas, lle bu protestwyr yn galw am barchu hawliau pobol Gaza. Ar un adeg, fe ymledodd yr helynt i mewn i’r siop, lle cafodd cynnyrch ei daflu ar hyd y llawr.

Mae disgwyl i Naveed Zafar, 35, ymddangos gerbron y llys heddiw.