Mae gwraig o Nigeria a gyrhaeddodd Abu Dhabi ar awyren, wedi marw. Mae swyddogion iechyd yr Emiradau Arabaidd Unedig yn poeni y gallai’r ddynes fod yn diodde’ o’r afiechyd Ebola.
Yn ôl datganiad ben bore heddiw, roedd y wraig 35 mlwydd oed ar ei ffordd o Nigeria i India i dderbyn triniaeth am ganser.
Ond fe ddirywiodd ei hiechyd ar y daith, a bu’n rhaid iddi dderbyn triniaeth frys ym mhrif faes awyr Abu Dhabi. Yno, wrth i’r tîm meddygol geisio ei hadfywio, fe ddaethon nhw i’r casgliad y gallai hi fod yn diodde’ o Ebola.
Mae ei gwr, ynghyd â’r pum meddyg a fu’n ei thrin, bellach yn cael eu cadw ar wahân i bobol eraill, tra bod profion yn cael eu cynnal.