Imran Khan
Mae Imran Khan – y cyn-gricedwr sydd bellach yn arwain un o’r gwrthbleidiau ym Mhacistan – wedi galw ar filoedd o wrthwynebwyr y llywodraeth yn y wlad i roi’r gorau i dalu trethi nes bod y Prif Weinidog yn camu o’i swydd.

Mae hefyd yn galw am anufudd-dod sifil nes y bydd Nawaz Sharif yn ildio.

Fe ddaeth galwad Imran Khan mewn rali yn y brifddinas, Islamabad, er mwyn galw ar Mr Sharif i gamu o’r neilltu tros honiadau iddo dwyllo ei ffordd i fuddugoliaeth yn etholiad mis Mai, 2013.

Mae hefyd wedi rhybuddio y bydd ei gefnogwyr yn meddiannu’r senedd os na fydd y Prif Weinidog wedi ymddiswyddo ymhen dau ddiwrnod.

“Beth am benderfynu heddiw na fyddwn ni’n talu trethi i’r llywodraeth hon,” meddai, “oherwydd llywodraeth anghyfreithlon ydi hi. Fyddwn ni ddim yn talu ein biliau trydan a nwy chwaith… Ac rwy’n annog y masnachwyr i gyd i roi’r gorau i dalu trethi.”

Roedd Imran Khan yn annerch rhwng 10,000 a 15,000 o bobol.