Sîciaid o Afghanistan yw’r mewnfudwyr a gafodd eu hachub o focs cargo mewn porthladd yn ne-ddwyrain Lloegr ddoe.

Mae dyfodiad y 35 o bobol wedi ysgogi ymchwiliad heddlu rhyngwladol, wedi i un o’r dynion farw.

Bellach, mae llefarydd ar ran Heddlu Essex wedi cadarnhau: “R’yn ni’n deall eu bod nhw wedi dod o Afghanistan, a’u bod yn perthyn i ffydd y Sîc.

“Nawr eu bod nhw’n ddigon da o ran eu iechyd, fe fydd yna swyddogion yn awyddus i gael gair gyda nhw er mwyn creu darlun o be’ ddigwyddodd, a sut y daethon nhw i wledydd Prydain mewn bocs cargo fel hyn.

“Mae nifer o bobol o’r gymuned Sîcaidd yn Tilbury bellach yn ein cynorthwyo, er mwyn gwneud yn siwr fod y bobol druain yma yn cael pob cymorth. Rydyn ni hefyd am gael gwybod be’n union sydd wedi digwydd iddyn nhw, a pha brofiadau maen nhw wedi’u cael ar y daith.

“Wrth wneud hyn, fe fyddwn ni’n ofalus iawn o’u hanghenion crefyddol ac ymarferol.”