Mae’n fwy na thebyg fod y mewnfudwyr anghyfreithlon a gafodd eu hachub o’r tu mewn i focs cargo yn Essex, wedi camu i mewn iddo mewn porthladd yn Ewrop. Dyna gred heddlu gwlad Belg, sy’n ceisio datrys yr achos a achosodd farwolaeth un dyn a chludo dros 30 o bobol eraill i’r ysbyty.

Mae asiantaethau rhyngwladol yn gweithio gyda phlismyn o wledydd Prydain wrth iddyn nhw barhau i ymchwilio i hanes y grwp a gyrhaeddodd borthladd Tilbury ben bore ddoe.

Heddiw, mae llefarydd ar ran Heddlu Ffederal Gwlad Belg yn dweud y byddai hi’n “amhosib” i’r 35 o ddynion, merched a phlant i gael eu llwytho i’r bocs yn yr amser y bu’n llonydd ym mhorthladd Zeebrugge, yng ngogledd y wlad.

Mae’n rhaid, felly, meddai, fod lori wedi gollwng y bocs cargo ar y llong, a’r bobol y tu mewn iddo’n barod.

Dyna pam eu bod bellach yn cribo ffilmiau camerâu cylch cyfyng, er mwyn ceisio dod o hyd i’r dreifar hwnnw/o neu enw’r cwmni lorïau.