Mae dyn yn ei arddegau wedi cael ei drywanu i farwolaeth ar ôl ffrae mewn tafarn.
Mae dynes 25 oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi i’r dyn ifanc gael ei ladd yn Urmston, Greater Manchester, yn gynharach heddiw.
Yn ôl yr heddlu, fe gawson nhw eu galw i ymateb i gwffas ymysg grwp o ddynion a mercher ar Flixton Road toc wedi dau o’r gloch y bore.
Fe ddaethon nhw o hyd i ddau ddyn, y ddau’n 18 oed ac o Stretford, wedi’u trywanu. Roedd y naill wedi’i anafu yn ei wddw a’i goes, ac fe gafodd ei gludo i Ysbyty Inffyrmari Brenhinol Manceinion. Mae’n parhau mewn cyflwr sefydlog yno.
Fe gafodd y llall, a oedd wedi’i drywanu yn ei frest, ei gludo i Ysbyty Hope, lle bu farw’n ddiweddarach.