Mae pedwar o bobol yn derbyn triniaeth ysbyty ar ôl tân mewn tŷ ym Mhowys.
Fe gafodd y frigad dân ei galw i dre’ Llanfyllin am 5 o’r gloch fore heddiw, wedi i dân gynnau mewn cegin.
Yn ôl y Gwasanaeth Tân ac Achub, mae pedwar o bobol yn derbyn triniaeth am effeithiau anadlu mwg. Fe gafodd y pedwar eu cludo i Ysbyty Amwythig.