Boris Johnson - eisiau dychwelyd i San Steffan
Byddai mwy na hanner y pleidleiwyr mewn etholaeth yn Llundain yn fotio i Boris Johnson pe bai’n sefyll yn etholiad cyffredinol 2015, yn ol arolwg.

Mae’r arolwg a gynhaliwyd yn Uxbridge a South Ruislip, wedi i Faer Llundain gadarnhau ei awydd i sefyll i fod yn Aelod Seneddol y flwyddyn nesa’, yn dangos y byddai’n cael eu cefnogaeth.

Ond roedd traean o’r rheiny sy’n cefnogi’r Tori lliwgar, yn dweud y dylai roi’r gorau i’w waith fel Maer pe bai’n ennill sedd yn San Steffan – er bod Boris Johnson wedi dweud y byddai’n awyddus i wneud tymor llawn yn y swydd honno hefyd, tan 2016.

Mae sedd Uxbridge a South Ruislip yn dod yn wag yn dilyn ymadawiad y cyn-Ddirprwy Brif Chwip, John Randall.

Roedd gan Mr Randall fwyafrif o 11,216 yn etholiad cyffredinol 2010.

Dedlein derbyn ceisiadau ar gyfer y sedd ydi Awst 28.