Llys y Goron Abertawe
Mae cwpwl “gwarthus” a gymrodd allweddi cartre’ dynes oddi arni tra’r oedd hi’n cael ffit epileptig, cyn dwyn pethau o’r ty yn Abertawe, wedi cael eu carcharu.
Fe gafwyd James Thomas a Louise Boyce yn euog o ddwyn goriadau Kayleigh Nicholas tra’r oedd hi ar y llawr yn crynu.
Roedd y ddau wedi pledio’n euog i ladrata, ac maen nhw wedi’u dedfrydu i 18 mis dan glo.