Mae protestwyr wedi’u gwasgu’u hunain i mewn i focsus pren, cyfyng, yn Llundain heddiw, er mwyn tynnu sylw at yr hyn sy’n digwydd i bobol gyffredin yn Gaza.
Fe fu tua 15o o bobol – yn ddynion, merched a phlant – yn cymryd rhan yn y brotest a drefnwyd gan elusen Oxfam.
Mae’r elusen wedi rhybuddio y bydd hi’n amhosib ail-adeiladu Gaza wedi’r trychineb dyngarol, oni bai fod llywodraethau byd yn dweud sut maen nhw’n bwriadu dwyn perswad ar Israel i ganiatau i fwyd a newyddau gael eu cludo i mewn i Gaza.