Mae dynes ifanc yn derbyn triniaeth mewn ysbyty wedi i hylif gael ei thaflu i’w hwyneb.
Mae wyneb a gwddw’r ddynes, sydd yn ei 20au, wedi eu hanafu wedi’r ymosodiad yn Lowestoft, Suffolk, am 8.20yb heddiw.
Mae hi wedi’i chludo i Ysbyty James Paget.
Mae Heddlu Suffolk yn dweud fod lle i greu mai “hylif sy’n cyrydu” oedd yr un a daflwyd i wyneb y ddynes.
Fe gafodd dyn 38 mlwydd oed ei arestio yn fuan wedi’r digwyddiad. Mae o’n parhau yn y ddalfa, yn cael ei holi gan yr heddlu.