Cafodd ymgeisydd Llafur ar gyfer etholiadau Ewrop ei ladd yn anghyfreithlon gan hunan-fomiwr yn Afghanistan, yn ôl y cwest i’w farwolaeth.
Bu farw Dhamander Singh Phangurha yn dilyn ymosodiad ar fwyty yn Kabul ar Ionawr 17 a laddodd 21 o bobol.
Clywodd y cwest yn Swydd Hampshire fod tramorwyr yn ystyried y lle’n ddiogel.
Ond cafodd cwsmeriaid eu lladd pan ffrwydrodd bom cyn i ddau ddyn arfog fynd i mewn a saethu atyn nhw.
Bu farw Phangurha, neu ‘Del Singh’, wedi iddo gael ei saethu tra’n gweithio fel cynorthwyydd cymorth dyngarol yn y ddinas.
Dywedodd tyst oedd yn gydweithiwr iddo fod ffrwydrad ychydig cyn i’r dryll gael ei danio.
Dangosodd profion fforensig a phost-mortem y bu farw Phangurha wedi iddo gael ei saethu bedair gwaith – dwywaith yn ei ben a dwywaith yn ei frest.
Doedd dim tystiolaeth ei fod e wedi cael ei anafu yn y ffrwydrad.
Mae’r heddlu’n trin y digwyddiad fel un terfysgol ond mae’r ymchwiliad yn parhau.
Dywedodd aelodau’r teulu wrth y cwest eu bod nhw’n dal i’w gael yn anodd dod i delerau â’i farwolaeth.
Dywedodd y crwner ei fod o’r farn fod Phangurha wedi’i ladd ar hap a chan derfysgwyr yn fwriadol, a bod lle i gredu eu bod nhw’n ceisio tarfu ar yr ymgyrch etholiadol yn Afghanistan ar y pryd.
Dywedodd partner Phangurha, Komal Adris, ei fod e’n ymgynghorydd i Ed Miliband a’i fod yn ymwelydd cyson ag Afghanistan.