Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud nad yw cynllun Llafur i gynnig presgripsiynau’n rhad ac am ddim i gleifion yng Nghymru yn fforddiadwy.
Daw eu sylwadau wedi iddi ddod i’r amlwg y bu cynnydd unwaith eto yn nifer y presgripsiynau sy’n cael eu rhoi gan ddoctoriaid.
Cafodd oddeutu 25 o bresgripsiynau’r pen eu rhoi yng Nghymru’r llynedd, sy’n draean yn fwy na rhannau eraill o’r DU.
Y cyfartaledd yn Yr Alban y llynedd oedd 18.6, 19.1 yn Lloegr a 21.1 yng Ngogledd Iwerddon.
Cyflwyno tâl
Cafodd y polisi o roi presgripsiynau am ddim yng Nghymru ei gyflwyno yn 2007 ac fe fu cynnydd o 23% ers hynny yn y nifer sy’n cael eu rhoi.
Yn ôl y Ceidwadwy, mae eitemau bob dydd fel paracetamol ar gael am ddim i bobl gyfoethog tra bod Gweinidogion Llafur yn dweud na allan nhw roi terfyn ar y loteri côd post am driniaethau canser trwy sefydlu Cronfa Triniaethau Canser.
Dywed y Ceidwadwyr eu bod nhw’n awyddus i ddiwygio’r polisi drwy gyflwyno tâl bach ar gyfer y sawl sy’n medru ei fforddio, ond fe fydd pobol a chanddyn nhw gyflyrau cronig yn cael eu heithrio.
‘Gimics rhad ac am ddim’
Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar: “Mae’r ffigurau hyn yn dangos cynnydd eto yn nifer y presgripsiynau rhad ac am ddim sy’n cael eu rhoi yng Nghymru, ar adeg pan fo Gweinidogion Llafur wedi dewis gwneud y toriadau mwyaf erioed, toriadau yng nghyllideb y Gwasanaeth Iechyd, yn cau ysbytai cymunedol ac yn israddio adrannau damweiniau ac achosion brys.
“Ni all Llafur barhau i dwyllo’r cyhoedd yng Nghymru trwy addo gimics rhad ac am ddim pan mai’r realiti yw nad oes unrhyw beth yn rhad ac am ddim.”