Mae’r heddlu wedi achub wyth o ddynion o fferm yn dilyn ymchwiliad i gaethwasiaeth posibl.
Fe wnaeth yr heddlu, gyda chefnogaeth yr Asiantaeth Troseddau Genedlaethol, fynd i’r fferm yn Calmore ger Southampton am 6 bore heddiw.
Mae’r dynion a gafodd eu hachub rhwng 21 a 46 oed ac o dras Rwmaneg, Latfieg a Phwyleg.
Mae’r heddlu hefyd yn credu eu bod nhw wedi dod o hyd i beiriannau ffermio sydd wedi cael eu dwyn.
Mae dyn 27 mlwydd oed, o Luton, Swydd Bedford, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ddal person arall mewn caethwasiaeth neu gaethwasanaeth yn fwriadol.
Mae’r dyn yn parhau i fod yn y ddalfa.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Phil Scrase o heddlu Southampton: “Fel mae’r ymgyrch y bore ‘ma wedi dangos, byddwn yn cymryd camau cyflym yn erbyn unrhyw un sydd o dan amheuaeth o fanteisio ar aelodau bregus cymdeithas er mwyn eu hunain.
“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â phryderon, amheuon neu wybodaeth a allai helpu ein hymholiadau i gysylltu â ni yn gyfrinachol.”