Y gymuned Yazidi sy'n gaeth ar Fynydd Sinjar
Mae David Cameron o dan bwysau i alw Aelodau Seneddol yn ôl i’r Senedd wrth i’r argyfwng dyngarol yn Irac waethygu.
Gyda rhagor o adroddiadau bod cymuned leiafrifol y Yazidi yn cael eu lladd gan eithafwyr IS yng ngogledd y wlad, mae AS Ceidwadol wedi mynnu bod angen i’r Senedd drafod gweithredu’n filwrol.
Dywedodd Conor Burns, AS Gorllewin Bournemouth, nad oedd ymateb y Llywodraeth hyd yn hyn “yn ddigon cryf”. Mae’r Llywodraeth wedi diystyru ymyrryd yn filwrol ond wedi bod yn gollwng cyflenwadau bwyd a diod.
Meddai: “Rwy’n teimlo’n gryf iawn nad yw ymateb y Llywodraeth wedi bod yn ddigonol.
“Mae’r bobl yma’n cael eu dienyddio gan IS, a’n hunig ymateb yw gollwng bwyd a dŵr iddyn nhw.
“Rwy’n credu y dylai’r Unol Daleithiau a’r DU gymryd rhan mewn ymosodiadau o’r awyr, ac y dylen ni fod yn ymateb yn gadarnhaol i geisiadau’r Cwrdiaid i’w harfogi nhw.”
Mae cyn bennaeth y fyddin, yr Arglwydd Dannatt hefyd wedi cefnogi galw ASau yn ôl i’r Senedd.
Ddoe, fe gyhoeddodd Downing Street y bydd rhagor o ymgynghorwyr y DU yn cael eu hanfon i ddinas Irbil i helpu i fynd i’r afael gyda’r argyfwng yno.
Mae’r Unol Daleithiau wedi bod yn cynnal ymosodiadau o’r awyr i ddiogelu’r ardal sy’n gymuned Cwrdaidd a phrif ganolfan masnach olew Irac.
Yn dilyn cyfarfod ddoe o bwyllgor brys y Llywodraeth, Cobra, dywedodd llefarydd ar ran Rhif 10: “Mae’r sefyllfa ddyngarol yn parhau’n bryderus iawn a hynny yw ein blaenoriaeth ni ar hyn o bryd.
“Mae cannoedd ar filoedd o bobl wedi ffoi o’u cartrefi ar draws y rhanbarth ac angen cyflenwadau. Ac mae miloedd yn dal yn gaeth ar Fynydd Sinjar er deellir bod rhai wedi dianc o’r mynydd i’r gogledd.”
Ychwanegodd: “Rydyn ni’n parhau i annog arweinwyr gwleidyddol Irac i benodi prif weinidog a all arwain llywodraeth gynhwysol.”