Llanelli
Ar ddiwedd wythnos Eisteddfod Sir Gâr mae Cymdeithas yr Iaith wedi llongyfarch y Cyngor Sir lleol am fabwysiadu strategaeth i atal dirywiad y Gymraeg yn y sir.
Dywed Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Robin Farrar, fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn “rhoi arweiniad i weddill y wlad gyda’i benderfyniad i fabwysiadu ac i weithredu strategaeth iaith flaengar.”
“Wrth edrych ymlaen at Eisteddfod Meifod flwyddyn nesaf, dyma her i gyngor sir Powys ddangos yr un fath o arweiniad a gwneud yn siwr fod yr iaith yn ffynnu’n y sir,” meddai.
Cynhaliodd y Gymdeithas ‘barti’ ar stondin Cyngor Sir Caerfyrddin ddydd Gwener er mwyn nodi strategaeth iaith newydd y cyngor sir, sy’n dilyn adroddiad Yr iaith Gymraeg yn Sir Gâr a gafodd ei gyhoeddi gan y cyngor ym mis Mawrth, a’i dderbyn ym mis Ebrill.
Yn ôl canlyniadau Cyfrifiad 2011 bu cwymp o 6,000 yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin ers Cyfrifiad 2001, a disgynnodd canran y siaradwyr Cymraeg i 44%.
Cymdeithas am gadw “llygad barcud”
Dywedodd cadeirydd y Gymdeithas yn Sir Gaerfyrddin, Sioned Elin:
“Am unwaith mae gwir achos i ddathlu gan fod y Cyngor Sir yn rhoi arweiniad i Gymru gyfan o ran y strategaeth iaith newydd a’r amserlen i’w gweithredu.
“Haeddant glod am ymateb i bobl ledled y sir a oeddent wedi dychryn o weld ffigurau’r Cyfrifiad o ran dirywiad y siaradwyr Cymraeg.
“Eto i gyd rydyn ni’n ymwybodol fod rhai swyddogion tu fewn i’r Cyngor sy’n debyg o geisio arafu’r broses a chyfyngu ar unrhyw newidiadau. Rydym yn ymwybodol hefyd fod angen i’r Pwyllgor newydd wneud gwaith ychwanegol i sicrhau parhad i gymunedau Cymraeg yn hytrach na byd addysg Gymraeg yn unig.”
Dywed y Gymdeithas eu bod nhw am gadw “llygad barcud” ar y Cyngor Sir ac adolygu’r strategaeth mewn cyfarfod cyhoeddus ar Ionawr 18 2015.