Mae dynes wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio merch saith oed fu farw o anaf i’w phen.

Roedd Kay-Ann Morris, 23, wedi ymddangos gerbron ynadon Nottingham ar gyhuddiad o lofruddio Shanaye Walker.

Cafwyd hyd i gorff y ferch mewn tŷ ym Mharc Bestwood, Nottingham tua 5.10yb ddydd Iau diwethaf.

Yn ôl Heddlu Sir Nottingham roedd archwiliad post mortem yn dangos bod Shanaye Walker wedi marw o ganlyniad i anaf i’w phen.

Cafodd Morris ei chadw yn y ddalfa a bydd yn mynd gerbron Llys Y Goron Nottingham ddydd Mawrth.