Arthur Jones
Mae corff wedi cael ei ddarganfod yn yr ymgyrch i ddod o hyd i ddyn 73 mlwydd oed o Ddinbych aeth ar goll yng ngwlad Groeg.
Does neb wedi gweld Arthur Jones ers 19 Mehefin, ddeuddydd wedi iddo gyrraedd Ynys Creta ar ei wyliau.
Mae chwilio helaeth amdano wedi bod ac mae ffrindiau ac aelodau o’i deulu wedi teithio i’r ynys i helpu gyda’r chwilio.
Daeth adroddiadau i’r amlwg y bore yma fod yr awdurdodau yng Ngwlad Groeg wedi dod o hyd i gorff maen nhw’n credu yw Arthur Jones.
Cadarnhaodd Mark Owen, o Heddlu Gogledd Cymru, bod corff wedi cael ei ddarganfod ond nad oedd y broses o’i adnabod yn ffurfiol wedi digwydd hyd yn hyn.
Meddai Mark Owen: “Yn dilyn cysylltiad â’r Swyddfa Dramor y bore yma rydym ar ddeall bod corff dyn wedi cael ei ddarganfod gan yr awdurdodau yng Ngwlad Groeg mewn lleoliad gwledig yng ngogledd Ynys Creta.
“Bydd proses ffurfiol i geisio ei adnabod yn digwydd yn fuan ond gallaf gadarnhau bod teulu’r dyn o Sir Ddinbych, Arthur Jones, sydd wedi bod ar goll ar ynys Creta, wedi cael gwybod am y datblygiadau ac maent yn cynorthwyo’r heddlu lleol.”