Martin Evans
Fe fydd dyn 52 oed o Abertawe yn mynd gerbron llys yn Ne Affrica heddiw ar gyfer gwrandawiad i geisio ei estraddodi yn ôl i’r DU.

Cafodd Martin Evans ei arestio gan swyddogion arfog yn Johannesburg nos Sadwrn, meddai’r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol (NCA).

Roedd wedi bod ar ffo ers 2011 ers iddo fethu dychwelyd i’r carchar ar ôl cael ei ryddhau ar drwydded.

Roedd wedi cael ei ddedfrydu i 21 mlynedd dan glo am gynllwynio i gyflenwi cocên a thwyll. Fe ddiflannodd wrth iddo aros i sefyll ei brawf am dwyllo 115 o fuddsoddwyr mewn cynllun ffug i sefydlu fferm estrys.

Fe ffodd i Sbaen ar ôl iddo gymryd £900,000 drwy dwyll gan y buddsoddwyr.

Tra roedd Evans ar ffo bu’n arwain gang rhyngwladol a oedd yn gyfrifol am smyglo cocên ac ecstasy gwerth £3 miliwn i Brydain.

Cafodd Evans, sy’n dod o Bontarddulais yn wreiddiol, ei ddedfrydu am smyglo cyffuriau ond cafodd ei rydau ar drwydded – cyn mynd ar ffo unwaith eto.

Yn dilyn ymchwiliad gan yr Asiantaeth Troseddau Trefnedig Difrifol (Soca) cafodd Evans ei arestio gan Heddlu De Affrica yn ardal Midrand nos Sadwrn.

Bydd yn mynd gerbron Llys Rhanbarthol Pretoria heddiw.