Mae cynllun dadleuol i geisio lleihau tagfeydd traffig ar yr M4 ym Mhort Talbot yn ystod cyfnodau prysur yn dechrau heddiw.
Fe fydd Cyffordd 41 i gyfeiriad y gorllewin yn cau ddwywaith bob dydd yn ystod yr wythnos.
Fe fydd yn cau rhwng 7-9 yn y bore ac yna rhwng 4 a 6 yn y prynhawn o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Roedd ’na fwriad i gau cyffordd 41 yn gyfan gwbl yn ystod y cyfnod prawf ond cafodd y cynlluniau eu newid ar ôl i fasnachwyr ddweud y byddai’n amharu gormod ar fasnach yng nghanol trefi Port Talbot.
Cafodd yr amseroedd eu cytuno yn dilyn cyfarfod rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, cynrychiolwyr o Siambr Fasnach Port Talbot, y gymuned leol a Busnes Cymru.