Edwina Hart
Bydd y Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart, yn lansio gwasanaeth bysiau newydd rhwng Caerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan ac Aberystwyth heddiw.
Mae gwasanaeth T1 yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r rhwydwaith TrawsCymru.
First Cymru fydd yn rhedeg y gwasanaeth, a hynny bob awr o ddydd Llun i ddydd Gwener a phedair gwaith y dydd ar ddydd Sul.
Mae’r amserlen wedi ei gynllunio fel bod y bws yn cysylltu â’r gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghaerfyrddin ac Aberystwyth hefyd.
Dywedodd y Gweinidog: “Mae’r ffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth drwy Lanbedr Pont Steffan yn un o’r rhai prysuraf a phwysicaf yn y Gorllewin.
“Dw i’n hynod falch felly fod cyllid a roddwyd gan Lywodraeth Cymru yn fodd i sicrhau y bydd y gwasanaeth hwn nid yn unig yn parhau, ond hefyd yn cael ei wella o ran hwylustod mynediad ac o ran pa mor gyfleus a chyfforddus ydyw i deithwyr.
“Yn ogystal â chysylltu’r tair prif dref, bydd y gwasanaeth hefyd yn cysylltu cymunedau gwledig llai yng ngogledd Sir Gaerfyrddin a de Ceredigion, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar gyfleoedd gwaith a gwasanaethau.”