Bydd y BBC yn lansio ei ap Cymraeg cyntaf erioed yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli heddiw.
Yr ap yw’r cynnyrch diweddaraf gan wasanaeth newydd Cymraeg BBC Cymru Fyw – gwasanaeth ar-lein sy’n cynnig casgliad cynhwysfawr o’r straeon diweddaraf o Gymru.
Bydd cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, yn lansio’r ap am 12 heddiw ym mhabell BBC Radio Cymru.
Bydd ymwelwyr i’r babell hefyd yn cael y cyfle i brofi’r ap drwy’r wythnos, ar ffôn enfawr.
Dywedodd Siân Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg: ‘‘Pan lansiodd Cymru Fyw cwpwl o fisoedd yn ôl, roeddem ni’n gwybod ei fod yn cynnig gwasanaeth newydd ac unigryw i siaradwyr Cymraeg.
“Ond, roeddem ni hefyd yn gwybod bod rhaid i’r gwasanaeth fod yn ddeinamig ac yn hawdd i’w ddefnyddio, gan wneud y gorau o’r dechnoleg mewn byd lle mae gwybodaeth yn cael ei yrru gan ddyfeisiau symudol, felly rydym yn falch iawn o lansio’r ap yma heddiw.”
Bydd ap Cymru Fyw ar gael i’w lawrlwytho am ddim ar ddyfeisiau iPhone ac Android.