Mae heddlu wedi arestio’r ail o ddau frawd yr oedden nhw’n chwilio amdanyn nhw mewn cysylltiad ag achos o ddynladdiad.

Fe gafodd Jurius Tarasov, 33, o dde-orllewin Llundain, ei arestio yn Croydon neithiwr.

Fe gafodd ei frawd, Valodia Tarasov, 35, ei arestio ar Orffennaf 25.

Fe gafwyd y brodyr yn euog o ddynladdiad ar Orffennaf 24 yn llys yr Old Bailey, Llundain.

Fe fethon nhw ag ymddangos yn y llys drannoeth, i gael eu dedfrydu.