Mae dynes wedi’i chyhuddo o lofruddio merch 7 mlwydd oed a fu farw o anaf i’w phen.

Mae Heddlu Swydd Nottingham wedi cadarnhau y bydd Kay-Ann Morris, 23, yn ymddangos gerbron ynadon yfory, wedi’i chyhuddo o ladd y ferch.

Fe gafwyd corff y ferch mewn ty yn Beckhampton Road, Bestwood Park, Nottingham, tua 5.10yb ddydd Iau.

Mae prawf post-mortem wedi dangos mai o ganlyniad i anaf i’r pen y bu’r ferch fach.