Mae esgobion Eglwys Loegr wedi apelio ar lywodraeth Prydain i fod yn drugarog wrth Gristnogion yn dianc rhag ymladdwyr jihad yn Irac, ac sy’n chwilio am loches.

Mae miloedd o Gristnogion wedi dianc o ddinas Mosul wedi i wrthryfelwyr o’r mudiad ISIS fygwth eu lladd.

Nawr, mae nifer o esgobion o wledydd Prydain wedi dweud ei bod hi’n “gyfrifoldeb moesol” i roi loches i’r Cristnogion. Mae yna gyfrifoldeb uniongyrchol ar y llywodraeth,  medden nhw, oherwydd iddyn nhw ymosod ar Irac yn 2003.

Mae tua tri chwarter y miliwn o Gristnogion oedd yn byw yn Irac yn 2003 wedi gadael oherwydd y trais yn y wlad.