Mae teithwyr fydd yn pasio trwy faes awyr Gatwick y penwythnos hwn yn gobeithio y bydd cynlluniau argyfwng yno yn gwneud y gwaith o sortio a throsglwyddo bagiau yn gynt ac yn fwy effeithiol.

Roedd prinder staff yn golygu fod, Swissport, y cwmni sy’n trosglwyddo bagiau, yn methu ag ymdopi gyda’r llif o deithwyr yn Gatwick nos Sadwrn diwetha’.

Fe gafodd nifer o deithwyr eu hanfon gartre’ heb eu bagiau oherwydd fod yna oedi o rai oriau cyn bod y bagiau a’r cesys yn cyrraedd prif adeiladau’r maes awyr o’r awyrennau.