Mae Swyddfa Dramor Prydain wedi cau ei llysgenhadaeth yn Libya, oherwydd cynnydd yn y trais yn y wlad.

Mae ymladd ffyrnig yn ninas Tripoli, yn cynnwys cwffio ger y swyddfa, yn golygu fod nifer o aelodau staff eisoes wedi’u symud oddi yno er mwyn eu diogelwch eu hunain.

Ond mae’r Swyddfa Dramor bellach wedi penderfynu y bydd y swyddfa yn cau, unwaith y bydd pob dinesydd Prydeinig sydd am adael Libya wedi cael help a chefnogaeth i wneud hynny.

Mae’r Swyddfa Dramor yn argymell na ddylai neb deithio i Libya ar hyn o bryd.