Mae cerdded i gopa’r Wyddfa’n ddigon o her i lawer o gerddwyr yn ystod yr haf, ond yr wythnos hon mae un dyn wedi mynd ati i’w wneud yn un o’r ffyrdd mwyaf gwallgof posib.

Ers dydd Mercher mae Stuart Kettel o Coventry wedi bod yn gwthio sbrowt i fyny’r mynydd gyda dim ond ei drwyn, gorchest sydd wedi gadael y croen ar ei bengliniau yn ddarnau.

Mae gan y gŵr o Ganolbarth Lloegr rhyw ddiwrnod i fynd nes cyrraedd copa’r mynydd uchaf yng Nghymru, ond mae’r ymdrech od i gyd at achos da.

Mae’n gobeithio codi £5,000 tuag at Gofal Cancr Macmillan, ac mae eisoes wedi codi dros £40,000 i’r elusen yn y gorffennol.

A rhag ofn bod unrhyw un yn meddwl y bydd e’n bwyta’r sbrowts a cherdded ar y slei, mae Kettel yn mynnu y bydd tystiolaeth.

“Byddaf yn cael fy ffilmio’r holl ffordd,” meddai wrth y Daily Mirror. “Bydd dim twyllo.

“Bydd gen i fag cefn gyda’r holl gêr gwersylla a digon o sbrowtiau sbâr.”

Dyw e ddim yn anghyfarwydd â chodi arian mewn dulliau anarferol, ar ôl treulio diwrnod mewn bocs, cerdded ar hyd pob stryd yn Coventry ar stiltiau a rhedeg mewn olwyn fochdew mawr yn y gorffennol.

“Mae fy nheulu i’n meddwl mod i off fy mhen,” ychwanegodd. “Dyma’r peth mwyaf gwallgof dw i wedi’i wneud hyd yn hyn.”

Mae modd dilyn taith Stuart Kettel, gan gynnwys gweld clipiau fideo ohono ar yr Wyddfa, o wefan www.willthemadfoolmakeit.co.uk.