Mae dynes 23 mlwydd oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth merch saith mlwydd oed.

Galwyd yr heddlu i dŷ yn ardal Parc Bestwood yn Nottingham tua 5:10 bore heddiw ar ôl pryderon am ddiogelwch y plentyn.

Mae dyn 47 mlwydd oed hefyd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod.

Bydd post mortem yn cael ei gynnal yn ddiweddarach. Dyw hi ddim yn hysbys ar hyn o bryd os yw’r par yn perthyn i’r plentyn.