Llys y Goron Caernarfon
Mae dyn o Landudno wedi cael ei garcharu ar ôl iddo ddychryn dynes yn ei chartref gan achosi iddi gael trawiad ar y galon.
Roedd Kevin Chambers wedi bod yn cymryd cyffuriau ar 15 Medi’r llynedd pan wnaeth o guro ar ddrws tŷ Carol Ann Wall, am 11.30yh. Roedd yn cario morthwyl ond yn honni fod dyn gyda gwn ar ei ôl.
Roedd Carol Wall, 58 oed, yn y tŷ gyda’i gwr a’i mab pan gafodd drawiad ar y galon wrth iddi ffonio 999.
Yn Llys y Goron Caernarfon cafodd Kevin Chambers, 37, ei ddedfrydu i ddwy flynedd yn y carchar ar ôl iddo bledio’n euog o fod ag arf peryglus yn ei feddiant ac achosi difrod i ddrws.