Mae bachgen 12 oed wedi cael ei ladd yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic a char yn Swydd Warwick.

Roedd Jake Mitchell o Nuneaton yn Swydd Warwick yn seiclo ar brif heol yn Wellsborough i gyfeiriad Market Bosworth yn Swydd Gaerlŷr pan gafodd ei daro gan gar tua chanol dydd ddoe.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty ag anafiadau difrifol, ac fe fu farw’n ddiweddarach.

Mae gyrrwr y car yn helpu’r heddlu gyda’u hymchwiliad, ac maen nhw’n apelio ar i unrhyw dystion ddod ymlaen â gwybodaeth berthnasol.