Mae adroddiad i lofruddiaeth mam a phlentyn dwy oed, wedi dod i’r casgliad y dylid dysgu gwersi o’r digwyddiad.
Cafwyd David Wyn Jones, 42 o Dremadog, yn euog o ddynladdiad ei wraig, Suzanne Jones a’u plentyn William ar Fawrth 30, 2012.
Cafodd ei arestio’r diwrnod canlynol ar amheuaeth o lofruddiaeth, ond fe gafodd y cyhuddiadau eu lleihau ar sail ei iechyd meddwl.
Wedi i lys ei ganfod yn euog o ddynladdiad, cafodd ei gadw am gyfnod amhenodol mewn uned iechyd meddwl.
Yn ôl arolwg achos difrifol, dylai gweithwyr iechyd, yr heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol fod wedi ymateb yn gynt i rannu gwybodaeth am ddiogelwch y teulu.
A ellid fod wedi atal y llofruddiaethau?
Ond yn ôl yr arolwg, dydy hi ddim yn sicr a ellid fod wedi atal y digwyddiad yn y pen draw.
Dywed yr arolwg nad oedd yr ysgol yn ymwybodol o unrhyw beryglon roedd y plentyn yn eu hwynebu yn y cartref, a doedden nhw ddim yn ymwybodol o unrhyw broblemau iechyd meddwl oedd gan y tad.
Yn ystod yr ymchwiliad, dywedodd Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd nad oedden nhw wedi dod i gyswllt â’r teulu.
Doedd gan fydwraig na meddygon y teulu unrhyw bryderon am eu diogelwch ychwaith, er bod y tad wedi’i drosglwyddo i ofal seiciatrydd ym mis Awst 2011.
Clywodd yr ymchwiliad bod y tad wedi bod yng ngofal y seiciatrydd o 2008 hyd at 2010, a’u bod yn ei weld yn gyson yn y cyfnod hwnnw.
Ond roedd lefel y gofal yn ‘safonol’ ac nid yn ‘eithriadol’ ar sail asesiad risg ac anghenion ac yn y pen draw, cafodd y tad ei drosglwyddo’n ôl i ofal y meddyg teulu ym mis Gorffennaf 2010.
Daeth y teulu i gyswllt â Heddlu Gogledd Cymru am y tro cyntaf rhwng Ebrill 2010 a Medi 2011, yn dilyn honiadau o e-drosedd ac fe gafodd y tad ei drosglwyddo’n ôl i ofal seiciatrydd.
Ar Awst 30, 2011, mynegodd y fam “bryderon difrifol” am gyflwr iechyd meddwl ei gŵr ond yn ystod y cyfnod rhwng Medi 2011 a Mawrth 2012, doedd y tad ddim wedi bod yn mynychu apwyntiadau gyda’r seiciatrydd fel roedd yn ofynnol ac fe gafodd ei ryddhau o’u gofal unwaith eto.
Ym mis Hydref 2011, mynegodd y tad bryder y byddai’n niweidio’i hun gyda dryll ac fe ddaeth i gyswllt â’r heddlu unwaith eto.
Daeth i gyswllt â’r heddlu unwaith eto ym mis Rhagfyr 2011, wedi iddo ffonio 999 ac fe ddaeth y gwasaanethau brys i’r casgliad ei fod yn dioddef o iselder.