Dai Greene
Mae Dai Greene wedi amddiffyn dau athletwr o Gymru sydd wedi cael eu gwahardd o Gemau’r Gymanwlad ar ôl iddyn nhw fethu prawf cyffuriau.

Mae Greene yn mynnu nad yw pencampwr Ewrop yn y 400m dros y clwydi, Rhys Williams na’r rhedwr 800m, Gareth Warburton wedi twyllo’n fwriadol.

Dywedodd y ddau yn dilyn y profion nad oedden nhw wedi cymryd sylweddau’n fwriadol, ond mae Greene yn cydnabod y bydd rhaid i’r ddau gael eu cosbi.

Dywedodd Dai Greene: “Pan glywodd Gaz (Warburton), fe decstiodd e fi ac roedd e wedi ypsetio am y peth, oherwydd rwy’n nabod Gaz ac wedi byw gydag e am nifer o flynyddoedd. Nid dyna’r math o foi yw e.

“Gobeithio y gallan nhw fynd i galon y peth a chael atebion, oherwydd dydw i ddim yn credu eu bod nhw’n dwyllwyr bwriadol.

“Fwy na thebyg maen nhw wedi bod yn ddi-ofal neu wedi cael eu camarwain ychydig. Fe ddaw atebion yn y pen draw, rwy’n siwr.

“Er ’mod i a Rhys ddim yn tynnu mlaen mewn gwirionedd, rwy’n gwybod nad yw e’r math o berson sy’n twyllo. Dw i ddim yn credu bod unrhyw un yn nhîm Cymru na Phrydain sy’n credu eu bod nhw wedi mynd ati’n fwriadol i gymryd cyffuriau i gael mantais.”

Gwersi i’w dysgu o’r sefyllfa

“Gobeithio y gallan nhw ddychwelyd yn gryfach fel athletwyr a pharhau â’u gyrfaoedd, gan eu bod nhw heibio’r 30 bellach, felly dwi’n teimlo’n flin drostyn nhw yn yr ystyr hynny,” meddai Dai Greene.

Mae cwmni Mountain Fuel, oedd wedi cynhyrchu sylweddau mae’r ddau athletwr wedi’u defnyddio, wedi dweud eu bod yn ffyddiog na fyddai’r sylweddau’n arwain at fethu prawf cyffuriau.

Mae Athletau Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw’n cynnal ymchwiliad mewnol i’r sefyllfa.