Mae cyn-chwaraewr amryddawn Morgannwg, Jacques Kallis wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o’r byd criced rhyngwladol.
Roedd Kallis, sy’n 38 oed ac a chwaraeodd dros Forgannwg yn 1999, wedi gobeithio chwarae yng Nghwpan y Byd y flwyddyn nesaf, ond dywed bellach fod y freuddwyd yn un afrealistig.
Sgoriodd Kallis 155* yn erbyn Swydd Surrey ym Mhontypridd yn ei ymddangosiad cyntaf i Forgannwg yn y gynghrair undydd, ac fe orffennodd y gystadleuaeth gyda chyfartaledd fatio o 96.80.
Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad o’r byd criced rhyngwladol, dywedodd Kallis mewn datganiad: “Fe wnes i sylweddoli yn Sri Lanca fod fy mreuddwyd o chwarae yng Nghwpan y Byd gam yn rhy bell.
“Ro’n i jyst yn gwybod ar y daith honno ei bod hi ar ben arna i.
“Roedd y garfan oedd yn Sri Lanca yn anhygoel ac rwy’n credu bod ganddyn nhw gyfle go dda o ddychwelyd adre gyda’r gwpan ym mis Mawrth.”
Er ei fod wedi ymddeol o’r byd criced rhyngwladol, fe fydd Kallis yn chwarae dros Sydney Thunder yng nghystadleuaeth T20 y Big Bash yn ystod yr haf.
Ac fe gyhoeddodd ei fod yn bwriadu dychwelyd i’r Kolkata Knight Riders yn India ar gyfer yr IPL y tymor nesaf.