Mae’r Dreigiau wedi cadarnhau fod y maswr Kris Burton wedi gadael y rhanbarth ac yn symud yn ôl i Awstralia.

Fe dreuliodd y gŵr 33 oed dymor yn chwarae yn Rodney Parade, gan ymddangos hefyd i Fedwas a Cross Keys.

Fe wnaeth Burton 15 ymddangosiad dros y Dreigiau’r tymor diwethaf, ar ôl symud o Treviso a chyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi rhyngwladol.

Cafodd Burton ei eni yn Brisbane, Awstralia ond fe chwaraeodd 21 o weithiau dros yr Eidal gan mai o dyna le oedd ei fam.

“Mae Kris wedi bod yn broffesiynol ar ac oddi ar y cae,” meddai prif weithredwr y Dreigiau Gareth Davies.

“Rydym yn dymuno’n dda i Kris a’i deulu wrth symud yn ôl i Awstralia.”