Morgannwg sydd ar frig tabl Cwpan Royal London yn dilyn buddugoliaethau yn erbyn Swydd Surrey a Phantherod Swydd Middlesex yn eu dwy gornest agoriadol yn y gystadleuaeth.
Bydd y Cymry’n herio Outlaws Swydd Nottingham, sy’n ail yn y tabl, yn Stadiwm Swalec heno.
Cyfarfu’r ddwy sir yn ffeinal y YB40 yn Lord’s y tymor diwethaf, pan oedd y Saeson yn fuddugol yn y cae byd enwog.
Ond Morgannwg oedd yn fuddugol y tro diwethaf i’r ddwy sir gwrdd yng Nghymru, a hynny yn 2012 yn San Helen, pan oedd Morgannwg yn fuddugol o ddau rediad trwy’r system Duckworth-Lewis.
Hwn yw’r pumed tro i’r ddwy sir gwrdd ar gyfer gornest Rhestr A a hyd yma, mae Morgannwg wedi ennill dwy, colli un ac fe orffennodd y llall yn gyfartal oherwydd y glaw.
Carfan 13 dyn Morgannwg: J Rudolph, J Allenby, W Bragg, M Goodwin, D Lloyd, C Cooke, M Wallace (capten), B Wright, G Wagg, A Salter, D Cosker, M Hogan, J Harris
Carfan 13 dyn Outlaws Swydd Nottingham: A Hales, M Lumb, J Taylor, S Patel, R Wessels, J Franklin, C Read, S Mullaney, S Wood, L Fletcher, A Shahzad, J Ball, H Gurney