Blog byw golwg360 o Gemau’r Gymanwlad, yn dod a’r diweddaraf am y Cymry sy’n cystadlu heddiw.

*Noson wych yn y pwll neithiwr

*Cymru’n cyrraedd eu targed o 27 medal

*Ffeinalau unigol y gymnasteg artistig unigol

*Dai Greene allan yn rhagras y 400m dros y clwydi

22:12: Ar ôl bod yn y pedweryddd safle hanner ffordd trwy’r gystadleuaeth, llithro i chweched oedd hanes Georgia Hockenhull yng nghystadleuaeth cyffredinol y gymnasteg. Gorffenodd y Gymraes arall, Lizzie Beddoe, yn wythfed.

22:00: Lauren Price wedi credu hanes yn y bocsio heno, trwy ennill ei gornest rownd go-gynderfynol yn erbyn Kaye Scott o Awstralia, hi yw’r ferch gyntaf o Gymru i ennill medal yn y bocsio yng Ngemau’r Gymanwlad. Bydd Price yn herio Ariane Fortin i Ganada yn y rownd nesaf am 19:00 nos Wener.

21:45: Rownd gynderfynol braidd yn siomedig i Joe Thomas yn yr 800m, y Cymro’n gorffen yn 7fed yn ei ras gydag amser 1:50.08

20.46: Tipyn o ganlyniadau’r Cymry wedi’n cyrraedd bellach o’r cystadlu heno.

Yn y sgwar bocsio mae Ashley Williams drwyddo i’r rownd gynderfynol a gornestau’r medalau ar ôl curo Muhamed Fuad Mohd Redzuan o Malaysia yn y categori 49kg.

Fe awn ni i’r cyrtiau sboncen nesaf, ac yng nghystadlaethau parau’r dynion a merched cafwyd tair buddugoliaeth gyfforddus o 2-0 i’r Cymry, gyda David Haley a Scott Fitzgerald yn ennill yn erbyn y pâr o Trinidad a Tobago, David Evans a Peter Creed yn fuddugol dros Ynysoedd y Cayman, ac mae Deon Seffrey a Tesni Evans wedi curo Papua Guinea Newydd.

Yn ail rownd senglau merched y tenis bwrdd fe gollodd Charlotte Carey 3-4 mewn gêm gyffrous i Zhenhua Dederko o Awstralia, ac roedd Ye Lin o Singapore yn fuddugol o 4-1 dros Megan Phillips, ond fe gipiodd Naomi Owen fuddugoliaeth o 4-1 dros Rheann Chung o Trinidad a Tobago.

Yn olaf, fe enillodd Carissa Turner a Sarah Thomas yng nghystadleuaeth parau merched y badminton, gan drechu Awstralia 2-1 (18-21, 22-20, 21-17).

17.15: Rhagor o ganlyniadau yng nghystadleuaeth parau cymysg y tenis bwrdd hefyd – Mae Naomi Owen a Stephen Jenkins newydd golli i Singapore, Angharad Phillips a Conor Edwards wedi colli i Awstralia, a Charlotte Carey a Ryan Jenkins yn colli i Loegr. Siom yn y trydydd rownd iddyn nhw i gyd felly.

Mae canlyniad bowlio lawnt cyntaf y prynhawn wedi dod hefyd, gyda Rob Weale yn colli 11-21 i Aron Sherriff o Awstralia.

16.58: Yn y bocsio mae Charlene Jones newydd golli i Laishram Devi o India yn ei rownd wyth olaf y pwysau ysgafn 60kg, sy’n golygu na fydd hi’n ymladd am y medalau.

Mae’r bowlio lawnt, sboncen, tenis bwrdd a badminton yn parhau’r prynhawn yma a heno, ac fe ddown ni a chanlyniadau’r rheiny i chi nes ymlaen.

Nes ymlaen fe fydd Ashley Williams a Lauren Price yn ymladd yn y sgwar focsio i geisio cyrraedd rownd cynderfynol, a medalau, eu cystadlaethau nhw, tra bod Hannah Brier yn rhedeg rhagras 200m heno.

Mae Joe Thomas hefyd yn rhedeg yn rownd gynderfynol yr 800m a hynny ar ôl i’r Sais a gurodd yn y rhagbrawf, Andrew Osagie, gael ei ddiarddel o’r gystadleuaeth am wthio Thomas cyn y linell.

Fe fydd merched y gymnasteg artistig hefyd yn cystadlu am fedal – Lizzie Beddoe a Georgia Hockenhull yw’r unig rai sydd â gobaith o ennill medal i Gymru heddiw bellach.

16.44: Colled yn y tenis bwrdd hefyd, gyda Charlotte Carey a Ryan Jenkins yn cael eu trechu gan bâr Lloegr 0-3 (5-11, 7-11, 5-11) yn y parau cymysg.

Mae cystadleuaeth unigol gymnasteg artistig pob camp y dynion wedi gorffen bellach, gyda Clinton Purnell yn seithfed, Iwan Mepham yn 13eg, a Harry Owen yn 20fed.

16.04: Canlyniad yn y sboncen nawr hefyd, ac yn anffodus mae Peter Creed a Tesni Evans wedi colli 1-2 (9-11, 11-10, 5-11) yn y parau cymysg.

Yn y gymnasteg artistig mae Clinton Purnell yn eistedd ar frig y tabl ar ôl gorffen ei chwe champ ef, ond gyda’r Saeson Max Whitlock a Nile Wilson a’r Albanwyr Daniel Keatings a Daniel Purvis eto i ddod mae’n anhebygol y gwelwn ni fedal i Gymru yn y gystadleuaeth honno.

15.21: Dim ond un canlyniad arall hyd yn hyn, ond mae’n swnio fel bod Megan Phillips newydd chwarae gêm wych o denis bwrdd gyda’i gwrthwynebydd Chelsea Edghill o Guyana yn rownd gyntaf senglau’r merched.

Megan oedd yn fuddugol o 4-3 (11-6, 10-12, 14-12, 6-11, 10-12, 11-7, 11-7), gan fynd 1-0 a 2-1 ar blaen, ac yna disgyn ar ei hôl hi ac yna ennill y ddwy gêm olaf i’w chipio hi.

Mae tenis bwrdd yn gêm ddigon chwim a chyffrous i’w gwylio beth bynnag, felly fuaswn i ddim yn synnu fod hi a’r dorf angen hoe ar ôl gweld gêm fel honna!

14.34: Does dim mwy o ganlyniadau wedi’n cyrraedd ni hyd yn hyn, ond fe allwn ni’ch diweddaru chi ar sut mae’r Cymry’n ei wneud yn ffeinal gymnasteg artistig pob camp y dynion.

Mae Clinton Purnell yn chweched, Harry Owen yn 16eg, ac Iwan Mepham yn 18fed, ar ôl tri camp allan o chwech yr un o bob cystadleuydd.

13.57: Yn y sgwâr focsio mae Sean McGoldrick wedi cyrraedd y rownd gynderfynol, ac felly’r cyfle i ymladd am fedal, ar ôl trechu Ayabonga Sonjica o Dde Affrica mewn gornest agos.

Mae Conor Edwards a Daniel O’Connell hefyd wedi ennill yn eu gêm ddyblau tenis bwrdd 3-0 yn erbyn Kiribati, ond mae’r pâr cymysg sboncen, David Evans a Deon Seffrey, wedi colli 2-1 i Loegr.

Yn anffodus mae trioedd y merched wedi colli yn y bowlio lawnt i Dde Affrica o 13-14, tra bod Anwen Butten a Caroline Taylor wedi cipio gêm gyfartal 15-15 yn erbyn Lloegr yn y parau.

12.49: Newyddion da ynglŷn â Brett Morse, gyda llaw, sef ei fod e drwyddo i ffeinal y taflu disgen bellach. Doedd ei dafliad yn y rhagrawf (gweler 12.26) ddim yn ddigon da i fynd drwyddo yn awtomatig, ond ar ôl i’r rhagbrofion i gyd orffen mae e bellach wedi sicrhau lle yn y ffeinal fory.

12.42: Mae’r gêm hoci merched rhwng Cymru a Malaysia bellach wedi dod i ben, a gêm di-sgôr digon diflas oedd hi yn y diwedd rhwng y ddau dîm.

O gofio nad yw’r un ohonynt wedi llwyddo i sgorio eto yng Ngemau’r Gymanwlad, efallai nad oedd hi’n fawr o syndod!

12.26: Rhagor o siom yn y rhagbrofion athletau i Gymru, wrth i Brett Morse fethu â thaflu pellter digon da i gyrraedd y rownd nesaf wrth daflu disgen, ei dafliad o 59.85 ddim cystal â’r 63.82 a daflodd Jason Morgan o Jamaica.

Colled hefyd ym mharau merched y sboncen, ble mae Deon Seffrey a Tesni Evans wedi cael eu curo gan y pâr o Loegr 0-2 (10-11, 7-11).

Ond mae Naomi Owen a Stephen Jenkins wedi ennill eu gêm parau cymysg tenis bwrdd yn erbyn Gogledd Iwerddon, a hynny o 3-0 (11-4, 11-2, 11-8).

11.55: Siom Dai Greene y bore yma, gyda’r Cymro dim ond yn gorffen yn bumed yn ei ragras 400m dros y clwydi ac felly’n methu’r cyfle i ailennill y fedal a gipiodd yn Delhi bedair blynedd yn ôl.

50.36 eiliad oedd amser Greene, gyda Roxoy Cato o Jamaica’n ennill y rhagras mewn 49.51 a Boniface Mucheru o Kenya’n ail gyda 49.67.

Yn newyddion gwell yw bod Angharad Phillips a Conor Edwards wedi ennill eu gêm parau cymysg tenis bwrdd yn erbyn y gwrthwynebwyr o Canada 3-0 (12-10, 11-9, 11-6).

11.41: Yn senglau’r badminton mae Daniel Font newydd golli 0-2 (8-21, 13-21) i Srikanth Kidambi o India, tra bod Charlotte Carey a Ryan Jenkins wedi ennill eu gêm ym mharau cymysg y tenis bwrdd o 3-0 (11-6, 11-5, 12-10) yn erbyn eu gwrthwynebwyr o India.

11.17: Rhagor o ganlyniadau, ac yn anffodus mae Damion Arzu wedi colli ei ornest reslo yn rownd yr wyth olaf 1-4 i Soukananh Thongsinh o Seland Newydd, felly’r repechage fydd e iddo ef.

Canlyniad arall yn y parau cymysg tenis bwrdd hefyd, a cholli wnaeth Chloe Thomas a Daniel O’Connell o 1-3 (9-11, 9-11, 11-6, 7-11)  i’r pâr o Seland Newydd.

10.51: Mae’r bowlwyr lawnt bellach wedi gorffen, gyda Robert Weale yn trechu’i wrthwynebwydd o Niue 21-18, ac Anwen Butten a Caroline Taylor hefyd yn fuddugol o 14-13 yn erbyn y pâr o Ynysoedd Cook.

Yn senglau badminton y merched fe enillodd Carissa Turner 2-0 (21-14, 21-10) yn erbyn Elena Johnson o Guernsey, tra yn y tenis bwrdd fe gipiodd Angharad Phillips a Conor Edwards gêm agos yn erbyn y pâr o Trinidad a Tobago ar ôl bod 2-0 ar ei hôl hi – y sgôr terfynol oedd 3-2 (5-11, 7-11, 11-9, 11-4, 11-8).

10.32: Yn ogystal â’r bowlio lawnt mae yna hefyd rhagor o Gymry’n cystadlu yn y tenis bwrdd, badminton, sboncen a reslo’r bore yma.

Mae’r merched hoci hefyd yn herio Malaysia, tra bod rowndiau rhagbrofol y taflu disgen gyda Brett Morse a’r ras 400m dros y clwydi gyda Dai Greene hefyd cyn cinio.

10.09: A dw i’n falch dweud bod yr amserlen wedi mynd yn ôl i’w threfn arferol heddiw, gyda’r bowlwyr lawnt unwaith eto’n dechrau’r cystadlu i ni’r Cymry y bore yma.

Mae Rob Weale wrthi’n senglau’r dynion yn erbyn Dalton Tagelagi o Niue, tra bod Anwen Butten a Caroline Taylor yn herio’r Ynysoedd Cook ym mharau’r merched.

Fe ddechreuodd y ddwy gêm yna toc cyn naw, felly dylai canlyniad fod ar ei ffordd yn fuan.

Yn ffodus i chi, mae gennym ni ganlyniad cyntaf y dydd. Yn anffodus, newyddion drwg yw hi gan bod Chloe Thomas a Daniel O’Connell wedi colli ym mharau cymysg y tenis bwrdd i Seland Newydd o 3-1 (11-9, 11-9, 6-11, 11-7).

10.02: Neithiwr oedd noson olaf y cystadlu yn y pwll, ac mae’n deg dweud bod Cymru wedi gwneud yn fwy na digon da gyda saith medal nofio.

Mae yna lai o gystadlaethau medalau i’r Cymry heddiw felly dydyn ni ddim yn disgwyl i’r podiwm fod mor brysur heddiw, ond fe fydd gan y gymnastwyr yn sicr rywbeth i’w ddweud am hynny.

Toc cyn un o’r gloch heddiw fe fydd ffeinal unigol y dynion ym mhob camp – hynny yw, ble byddwn nhw’n cystadlu ar bob darn o’r offer gymnasteg ac yn adio’r sgôr ar y diwedd – gydag Iwan Mepham, Harry Owen a Clinton Purnell yn cynrychioli Cymru.

Yn nes ymlaen heno wedyn fe fydd ffeinal y merched yn yr un gystadleuaeth, gyda Lizzie Beddoe a Georgie Hockenhull yn gobeithio cipio medalau.

Yn dibynnu ar sut wnaiff Damion Arzu yn y reslo dull rhydd 61kg y bore yma, mae’n bosib y gwelwn ni ef yn cystadlu am fedal cyn pump o’r gloch hefyd.

9.51: Bore da a chroeso i flog byw golwg360 unwaith eto, ble rydym ni’n cadw llygad ar y Cymry sydd yn cystadlu heddiw.

Ar ôl diwrnod gymharol dawel ddoe cafwyd llwyddiant ysgubol yn y pwll nofio neithiwr, gyda Georgia Davies yn cipio aur yn y 50m dull cefn, Jazz Carlin yn ychwanegu medal arian at ei chasgliad yn y 400m dull rhydd, a Daniel Jervis yn ennill efydd yn y 1500m dull rhydd.

Yn ogystal â hynny fe enillodd dîm gymnasteg artistig y merched a’r reslwr Craig Pilling fedalau efydd, gan godi cyfanswm tîm Cymru i 27 – y targed wedi’i tharo, a ninnau dim ond ychydig dros hanner ffordd drwy’r Gemau.