Daeth cadarnhad y bydd cyn-blismon yn cael ei gyhuddo’n ffurfiol o lofruddio Azelle Rodney yng ngogledd Llundain yn 2005.
Roedd Azelle Rodney, 24, o dan amheuaeth am ladrata pan gafodd ei gar ei stopio gan yr heddlu yn Edgware.
Roedd dau ddyn arall yn y cerbyd pan gafodd Rodney ei saethu’n farw gan y cyn-blismon sy’n cael ei adnabod fel E7, wedi i lys gytuno yn ystod ymchwiliad cyhoeddus y gallai barhau’n anhysbys.
Dywedodd mam Azelle Rodney, Susan Alexander ei bod hi’n “blês iawn” gyda phenderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Cafodd Rodney ei saethu chwech o weithiau, unwaith yn ei fraich, unwaith yn ei gefn a phedair gwaith yn ei ben.
Fe fydd y cyn-blismon yn ymddangos gerbron Llys Ynadon San Steffan ar Fedi 10.