Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams wedi dweud bod y Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru “mewn argyfwng”, yn dilyn cyhoeddi’r ffigurau amserau aros diweddaraf.

Yn ôl y ffigurau, roedd yr amserau aros 10% yn waeth mis Mehefin eleni nag oedden nhw yn ystod yr un mis y llynedd.

Eleni, cafodd 53% o alwadau brys lle’r oedd bywyd unigolyn mewn perygl eu hateb o fewn yr wyth munud sy’n cael ei nodi gan Lywodraeth Cymru, o’i gymharu â 54% y mis blaenorol, a 62.6% ym mis Mai’r llynedd.

Mae Llywodraeth Cymru’n nodi y dylid ateb 65% o alwadau o’r fath o fewn wyth munud, ond 75% yw’r nod yn Lloegr a’r Alban.

Wrth ymateb i’r ffigurau, dywedodd Kirsty Williams: “Unwaith eto, rydyn ni’n gweld amserau aros am ambiwlans yn gwaethygu.

“Dydy’r nod bresennol ddim yn uchelgeisiol o gwbl ond mae’n cael ei fethu o hyd. Mae’r ffigurau hyn yn parhau’n warth cenedlaethol.

“Mae ateb hanner y galwadau brys lle mae bywyd yr unigolyn mewn perygl o fewn y nod o 8 munud yn bryder mawr. Does dim modd cuddio rhag y ffaith fod ein gwasanaeth ambiwlans mewn argyfwng.

“Mae targedau misol yn cael eu methu ac mae yna dystiolaeth i ddangos bod y broblem yn gwaethygu, ac nid yn gwella,” meddai.

“Mae cleifion yn haeddu gwell na hyn.”

‘Dim esgus’

Ychwanegodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones: “Mae amseroedd ymateb ambiwlansys wedi gwaethygu unwaith eto ac nid oes unrhyw arwydd bod Llywodraeth Llafur Cymru yn dod yn agos at ymdrin â’r perfformiad gwarthus.

“Nid oes esgus am y methiant parhaus hwn ac mae’r sefyllfa yn arbennig o wael yn Rhondda Cynon Taf lle’r oedd 40.5 y cant yn unig o’r ymatebion brys i alwadau categori A yn cyrraedd y targed 8 munud.

“Am faint yn hwy y bydd yn rhaid inni aros cyn bod y gwasanaeth ambiwlans yn gwella?”