David Cameron
Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron, wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn rhoi £3m ychwanegol o gymorth i Gaza, wrth iddo alw eto am gadoediad diamod i roi stop ar yr ymladd yno.
Mae Prydain eisoes wedi rhoi £7m, ond mae angen mwy o arian ar gyfer y pethau syml, sylfaenol, meddai David Cameron.
“Rydw i’n cyhoeddi heddiw y byddwn ni’n rhoi £3m ychwanegol er mwyn gwneud yn siwr fod pobol Gaza yn cael y pethau sylfaenol mewn bywyd – y bwyd, y cysgod a’r cymorth sydd ei angen arnyn nhw.”
Ac wrth ddweud hyn, fe alwodd eto ar i Israel a Hamas i roi eu harfau i lawr – ond fe feiodd Hamas am dorri amodau cadoediad.
“Mae’n rhaid i ni fod yn glir bod angen cadoediad diamod, dyngarol a chadoediad sy’n digwydd yn syth bin ac sy’n cynnwys pawb,” meddai.
“Mae’r hyn welwn ni’n digwydd yn Gaza yn hollol drasig ac uffernol, mae’r marwolaethau’n ofnadwy, ac mae’n torri calon i wylio’r pethau hyn ar y teledu.”