Mae’r dyn oedd dan amheuaeth o ladd pedwar o bobol yn Amgueddfa Iddewig Brwsel ym mis Mai eleni, wedi cael ei gyhuddo o ‘lofruddiaeth mewn cyd-destun terfysgol’.
Ddiwrnod wedi iddo gael ei ystraddodi o Ffrainc, mae heddlu ffederal wedi cadarnhau fod Mehdi Nemmouche hefyd wedi cael ei holi gan yr uned wrth-derfysgaeth.
Fe gytunodd Mehdi Nemmouche i gael ei ystraddodi o Ffrainc i Wlad Belg, ar yr amod na fyddai’n cael ei drosglwyddo i drydedd gwlad. Mae hefyd wedi ymladd gydag eithafwyr Islamaidd yn Syria.
Ar Fai 24, fe gerddodd dyn arfog i mewn i’r Amgueddfa Iddewig yng nghanol dinas Brwsel, fe dynnodd reiffl Kalashnikov allan, a lladd pedwar o bobol. Yna, fe gadwodd ei wn a cherdded ymaith.
Fe gafodd Mehdi Nemmouche ei arestio yng ngorsaf fysiau Marseille ychydig ddyddiau’n ddiweddarach. Roedd yn cario gynnau tebyg i’r rhai gafodd eu defnyddio yn yr ymosodiad ym Mrwsel.