Mae dau heddwas arfog yn cael eu hymchwilio, wedi iddyn nhw, yn honedig, ddefnyddio trosol i ladd carw oedd wedi brifo.
Roedd y plismyn o Heddlu Durham wedi cael eu hanfon i ddifa’r anifail a oedd wedi’i anafu ar y ffordd.
Ond, yn hytrach na defnyddio’u gynnau, fe ddefnyddion nhw drosol i ladd yr anifail.
Mae’r llu bellach yn cynnal ymchwiliad i’r honiad na chafodd y carw ei ladd yn y modd cywir a’r mwya’ gwaraidd.