Mae gwraig 85 oed a gafwyd yn ei chartre’ yn diodde’ anafiadau difrifol, wedi marw.

Fe gafodd Eleanor Whitelaw ei chludo i’r ysbyty ar Orffennaf 11, wedi i heddlu ddod o hyd iddi yn ei chartre’ yn Morningside Grove, Caeredin.

Ond mae Heddlu’r Alban wedi cadarnhau y bu’r wraig farw neithiwr yn Ysbyty Inffyrmari Brenhinol y ddinas.

Mae’r farwolaeth nawr yn cael ei thrin fel achos o lofruddiaeth.

Fe gafodd Robert Buczek, 23, ei gyhuddo o geisio ei llofruddio ac o ymosod gyda’r bwriad o beryglu bywyd, pan ymddangosodd gerbron Llys Siryf Caeredin ddoe.