Mae gyrr o wartheg wedi ymosod ar ddynes yn Awstria, a’i lladd.

Mae’r heddlu wedi rhyddhau datganiad yn dweud fod yr anifeiliaid, am ryw reswm, wedi’u styrbio pan welson nhw gi Alsatian yr heicwraig 45 mlwydd oed. Roedd y ci ar dennyn.

Yn ôl swyddogion, fe ruthrodd tua 20 o wartheg am y wraig. Er i’r gwasanaethau brys gael eu galw, fe fethodd y criw ag achub y ddynes a fu farw yn y fan.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad mewn cae mynyddig yn nhalaith Tyrol.