Blog byw golwg360 o Gemau’r Gymanwlad, yn dod a’r diweddaraf am y Cymry sy’n cystadlu heddiw.

*Efydd i Craig Pilling yn y reslo

*Decathlon a’r gymnasteg artistig tîm yn dod i ben heddiw

*Rhagor o fowlio lawnt, reslo a saethu

*Cyfle am fedalau nofio i Carlin, Davies a Jervis

*Cymru’n cyrraedd eu targed o 27 medal

22.01: A dyna ni am y cystadlu heddiw i’r Cymry – heblaw am un ornest focsio i Lauren Price ym mhwysau canol 75kg y merched sydd i ddod ar ôl deg heno. Fe fyddwn ni nôl gyda rhagor yfory.

Ond yn y cyfamser mae’n bryd agor y siampên ym mhencadlys Chwaraeon Cymru, gan fod y tîm wedi cyrraedd y targed o 27 o fedalau ar gyfer y Gemau eleni, a hynny gyda phum diwrnod o gystadlu’n weddill!

21.59: Er yr holl gyffro yna yn y pwll, mae rhai o’r Cymry eraill sydd wedi bod yn cystadlu heno hefyd yn haeddu sylw.

Yn gyntaf y decathlon, sydd newydd orffen gyda’r ras 1500m – mae Ben Gregory wedi gorffen yn chweched, David Guest yn wythfed, a Curtis Mathews yn ddegfed.

Yn ffeinal y 10,000m i ferched ar y trac, fe orffennodd Elinor Kirk yn wythfed parchus, gyda Kenyaid yn cipio pob un o’r medalau.

Mae Joseph Cordina a Nathan Thorley wedi ennill eu gornestau bocsio nhw, tra bod Zack Davies wedi colli yn rownd yr wyth olaf.

Yn bowlio lawnt fe enillodd y trioedd para-fowlio 15-14 yn erbyn Malaysia, ac fe gurodd pedwarau’r dynion Niue o 32-10.

Colli oedd hanes tîm hoci’r dynion o 5-1 yn erbyn De Affrica, ac roedd De Affrica hefyd yn drech na’r merched pêl-rwyd o 61-41.

Yn y badminton roedd Daniel Font a Carissa Turner yn fuddugol yn eu gemau sengl nhw, ond colli wnaeth Ollie Gwilt a Sarah Thomas yn y dyblau cymysg i Seland Newydd.

Cafwyd dwy fuddugoliaeth i Daniel O’Connell ac un i Stephen Jenkins yn senglau dynion y tenis bwrdd.

Ac yn y sboncen fe gollodd David Haley a Scott Fitzgerald, ond fe enillodd David Evans a Peter Creed, ym mharau’r dynion, tra bod Deon Seffrey a Tesni Evans wedi ennill ym mharau’r merched.

21.32: Mae Dan Jervis yn trendio ar Twitter bellach … ac yn haeddiannol hefyd, fe wnaeth o’n wych i ddod nôl yn y 100m olaf i gipio’r fedal efydd yna.

21.23: Dynion Cymru’n gorffen yn chweched yn y ras medlî gyfnewid 4x100m gydag amser 3:37.25. Lloegr yn cipio aur, Awstralia â’r arian; De Affrica’n mynd â’r efydd i gloi cystadlu’r pwll.

21.10: Merched Cymru’n nofio’n wych i orffen yn 4ydd yn y medlî cyfnewid 4x100m, ond yn cael eu gwahardd am gyfnewid yn rhy fuan. Awstralia – aur; Lloegr – arian; Canada – efydd.

20:41 MEDAL EFYDD I DANIEL JERVIS

Daniel Jervis yn dod yn ôl yn hwyr yn y ras i gipio medal arall yn y pwll i Gymru heno, y tro yma yn y 1500m dull rhydd. Ryan Cochrane o Ganada aeth a’r aur gydag amser o 14:44.03, Mack Horton o Awstralia’n ail mewn 14:48.76. Daeth y Cymro’n drydydd mewn 14:55.33, cwta .38 eiliad o flaen Jordan Harrison!

19:58 Georgia Davies yn edrych yn llawn balchder wrth ganu ‘Gwlad, gwlad…’

19:51 Seithfed safle yn ffeinal y medlî 200m i Ieuan Lloyd. Dan Tranter o Awstralia yn mynd a’r aur, a Daniel Wallace o’r Alban â’r arian. Nawr am seremoni Georgia!

Dechrau gwych i Gymru yn y pwll hen – dwy ras a dwy fedal. Ieuan Lloyd fydd yn rasio nesaf  yn y pwll yn y medlî 200m am 19:47. Mae cyfle am fedal gan Daniel Jervis hefyd nes mlaen yn y 1500m dull rhydd.

19:33 AUR I GEORGIA DAVIES

Georgia Davies yn mynd un yn well na Jazz Carlin heno ac yn cipio’r fedal aur yn y 50m dull cefn.

Georgia’n ennill mewn amser o 27.56, gyda Lauren Alice Quigley o Loegr yn ail, a Brooklynn Snodgrass o Ganada yn drydydd.

19:19 Disgwyl y ras nesaf o ddiddordeb i’r Cymry yn y pwll – Georgia Davies yn rasio yn y 50m dull cefn tua 19:31.

19:13 MEDAL ARIAN I JAZZ CARLIN

Ail fedal o’r gemau yn y pwll i Jazz Carlin, arian y tro yma yn y 400m dull rhydd. Lauren Boyle o Seland Newydd yn cipio’r aur gydag amser 4:04.47, a Carlin yn agos iawn gydag amser o 4:05.16. Bronte Barrat o Awstralia gipiodd yr efydd.

“Yr aur o’n i eisiau, ond alla’i ddim cwyno gormod am yr arian” meddai Carlin wrth ohebydd y BBC ar ôl y ras

18:50 MEDAL EFYDD I GYMRU!

Medal efydd arall i Gymru, gyda thîm gymnasteg artistig y merched yn cipio medal tîm cyntaf erioed i Gymru mewn gymnasteg artistig!

16.59: Y diweddaraf i chi o’r decathlon yw bod Ben Gregory wedi ennill y naid ffon mewn uchder o 5.00m, gyda David Guest a Curtis Mathews yn neidio uchder o 4.50.

Mae’n golygu bod Gregory’n codi nôl i bumed, gyda Guest yn seithfed a Mathews yn wythfed, a dim ond y javelin a’r ras 1500m i fynd.

Mae Charlene Jones hefyd wedi ennil ei gornest focsio 60kg yn erbyn Keshani Hansika o Sri Lanka, tra yn y tenis bwrdd mae Stephen Jenkins wedi curo Friday Ng’andu o Zambia 4-0 (11-7, 11-9, 11-2, 11-5).

16.55: MEDAL EFYDD I GYMRU!

Medal gyntaf Cymru heddiw, ac mae’n mynd i Craig Pilling yn y reslo categori 57kg, wrth iddo drechu Omar Tafail o Loegr 3-1.

15.13: Dyw’r canlyniad ddim wedi’i gadarnhau eto, ond mae’n edrych yn debyg mai pumed fydd tîm dynion Cymru yn y gymnasteg artistig, gyda Lloegr, yr Alban a Canada yn cipio’r medalau.

Mae’r merched dal ar y blaen yn eu cystadleuaeth nhw ond gyda’r timau cryfaf eto i ddod.

Yn y tenis bwrdd mae Megan Phillips wedi trechu Larrysa Dover o Dominica 4-0 (11-4, 11-3, 11-3, 11-4)

14.17: Canlyniad arall yng nghystadleuaeth parau cymysg y sboncen, ac mae Peter Creed a Tesni Evans wedi ennill eu gêm nhw yn erbyn Malta o 2-0 (11-2, 11-7).

Draw yn y saethu reiffl 50m 3 Safle i ferched fodd bynnag, dim lle yn y rownd derfynol i Jenny Corish a Sian Corish.

Yn y bowlio lawnt mae trioedd merched Cymru wedi curo Ynys Norfolk o 14-12, tra bod pedwarau’r dynion yn fuddugol o 21-7 yn erbyn Kenya.

13.30: Mae Charlotte Carey wedi ennill ei hail gêm o’r dydd yn y tenis bwrdd gan drechu Natalie Cummings o Guyana 4-0 (11-7, 11-6, 11-7, 11-7), tra bod David Evans a Deon Seffrey wedi cael y gorau o Mauritius 2-0 (11-3, 11-0) ym mharau cymysg y sboncen.

13.24: Rhagras Joe Thomas yn rhedeg yr 800m wedi gorffen bellach, ac mae’r Cymro drwyddo i’r ras gynderfynol ar ôl gorffen yn drydydd mewn amser o 1:49.38.

13:20: Digon o gystadlu i ddod eto’r prynhawn yma i’r Cymry, gan gynnwys rhagor o fowlio lawnt, sboncen a tenis bwrdd.

Fe fydd y decathlon hefyd yn symud ymlaen i’r naid ffon, tra bod gan Charlene Jones ornest focsio 60kg, a thimau hoci’r dynion a phêl-rwyd merched Cymru’n herio De Affrica cyn pump o’r gloch.

Cyn hynny fe fydd cyfle am fedal arall, wrth i Craig Pilling fynd am fedal efydd yn yr ornest reslo 57kg yn erbyn Omar Tafail o Loegr.

13.13: Mwy o siom i saethwyr Cymru wrth i Mike Wixey a Jonathan Davis fethu allan ar ffeinal trap y dynion.

Joe Thomas yw’r unig Gymro sydd yn cystadlu yn yr 800m ar y trac y prynhawn yma gyda llaw – hon oedd y gystadleuaeth y byddai Gareth Warburton wedi’i redeg petai heb fethu prawf cyffuriau.

12.59: Rhagor o ganlyniadau i chi cyn cinio. Mae Mike Bamsey wedi methu allan ar le yn ffeinal saethu reiffl 50m 3 Safle’r dynion ar ôl gorffen yn nawfed yn y rhagbrawf, tra yn y dyblau sboncen mae David Evans a Peter Creed wedi curo’r pâr o Uganda 2-0 (11-1. 11-1).

Yn anffodus i Craig Pilling mae wedi colli’i ornest reslo cynderfynol i Ebikweminomo Wilson o Nigeria 0-4.

Yn y decathlon mae Curtis Mathews newydd daflu record bersonol yn y ddisgen o 47.85, y gorau o’r tri Cymro. Mae hynny’n codi Mathews i’r pumed safle gyda 5539, un ar ddeg pwynt yn unig o flaen David Guest, gyda Ben Gregory nawr yn wythfed.

Fodd bynnag, gyda John Lane o Loegr ar 5831 o bwyntiau yn y trydydd safle, mae’n anhebygol y gall un o’r Cymry gipio medal bellach.

Mae’r gymnastwyr artistig yn edrych fel eu bod nhw’n gwneud yn dda iawn, fodd bynnag. Mae’r merched newydd gipio’r safle cyntaf gyda sgôr wych o 160.095, ac yn aros i weld sut wnaiff y timau eraill, tra bod y dynion hefyd wedi codi i’r ail safle yn eu cystadleuaeth nhw.

11.47: Dau ganlyniad nofio arall i chi – fe ddaeth tîm Cymru’n bedwerydd yn rhagbrawf y ras gyfnewid 4x100m medli, a’r dynion yn drydydd yn eu rhagras nhw yn yr un cystadleuaeth. Mae’r ddau dîm drwyddo i’r ffeinalau.

11.24: Rhagor o ganlyniadau i chi, ac mae hi wedi bod yn ragbrawf dda yn y pwll ble mae Ieuan Lloyd wedi ennill ei ragras 200m medli unigol a Xavier Mohammed wedi gorffen yn drydydd yn ei un yntau. Yn anffodus i Mohammed, dyw ei amser e ddim i’w weld yn ddigon cyflym, ond fe fydd Lloyd yn y ffeinal heno.

Canlyniad yn y tenis bwrdd, ble mae Megan Phillips wedi trechu Anniesa Benstrong o Seychelles 4-1 (11-13, 11-2, 12-10, 11-7, 11-9), ac yn y reslo mae Craig Pilling newydd drechu Ross McFarlane o’r Alban yn ei ornest reslo 57kg.

11.04: Mae’r ddwy gêm fowlio lawnt arall wedi gorffen bellach hefyd, gyda Rob Weale yn colli 12-21 i Sam Tolchard o Loegr yn senglau’r dynion, a thrioedd y para-fowlwyr yn colli 8-16 i’r Alban.

11.01: Yn y pwll, mae Jazz Carlin wedi dod yn drydydd yn ei rhagras 400m dull rhydd hi, ac Ellena Jones yn chweched. Carlin drwyddo i’r ffeinal felly, a Jones o fewn rhyw eiliad i ymuno â hi.

Mae Tommy Hawthorn newydd drechu Dipu Ray o Bangladesh yn ei ornest reslo 74kg, tra bod parau bowlio lawnt merched Cymru, Anwen Butten a Caroline Taylor, newydd guro Canada 19-10.

10.25: Canlyniad yn y decathlon nawr i chi hefyd. Mae Curtis Mathews newydd dorri ei record bersonol ef gan redeg y ras 110m dros y clwydi mewn 14.88 eiliad, tra bod Ben Gregory a David Guest wedi gorffen mewn amser o 14.70.

Mae’n golygu bod Guest yn codi i’r pumed safle, gyda Gregory’n symud fyny i chweched a Mathews yn neidio i seithfed.

10.15: Canlyniad cyntaf y dydd i chi, ac mae Charlotte Carey wedi trechu Jinita Azad Kumar Shah o Kenya yn ei gêm grŵp cyntaf yn senglau tenis bwrdd y merched, yn gyfforddus hefyd o 4-0 (11-3, 11-6, 11-6, 11-2).

9.36: Mae cystadlaethau tîm y gymnasteg artistig i ddynion a merched hefyd hanner ffordd drwyddo, gyda’r ddau’n gorffen heddiw.

Fel mae hi ar hyn o bryd mae merched Cymru’n drydydd gyda 81.398, y tu ôl i Loegr (85.390) ac Awstralia (83.882), â’r perfformiadau llawr a thrawst i ddod.

Yng nghystadleuaeth y dynion Cymru yn bedwerydd ar 122.339 o bwyntiau, y tu ôl i Loegr (133.806), Yr Alban (127.240) a Canada (125.380). Tair cystadleuaeth i fynd, sef y vault, barau paralel a baru llorweddol.

Mae disgwyl i’r dynion a’r merched fod allan ar y matiau am tua hanner dydd heddiw.

9.29: Yn absenoldeb unrhyw ganlyniadau i chi hyd yn hyn y bore yma, dyma sut mae petha’n sefyll yn y decathlon ar hyn o bryd gyda’r pwyntiau o ran y Cymry.

1. D Warner (Can) – 4378; 2. J Lane (Eng) – 4294, 3. K Felix (Granada) – 4228; 6. David Guest – 3913; 8. Ben Gregory – 3894; 10. Curtis Mathews – 3849

Pum cystadleuaeth i fynd, sef y 110m dros y clwydi, taflu disgen, naid ffon, javelin a’r 1500m.

8.56: Os nad oeddech chi wir wedi’ch cyffroi gyda’r diweddariad diwethaf yna, efallai y gwnaiff rhai o’r campau eraill sy’n digwydd cyn 11.00yb ddenu’r sylw.

Mae cystadlaethau saethu trp y dynion, senglau tenis bwrdd y merched, badminton dwbl y dynion a reslo’r dynion i gyd ar y ffordd.

Yn ogystal â hynny fe fydd Jazz Carlin ac Ellena Jones yn y pwll ar gyfer rhagbrofion y 400m dull rhydd, a Xavier Mohammed a Ieuan Lloyd yn eu dilyn yn y 200m medli unigol.

Mae’r decathlon hefyd yn parhau gyda’r chweched cystadleuaeth o ddeg, y ras 110m dros y clwydi.

8.50: Ond newyddion mawr y bore yma – daliwch ’mlaen i’ch seti, mae hwn yn gyffrous – yw mai nid y bowlio lawnt yw cystadleuaeth agoriadol y Cymry heddiw.

Yn hytrach, mae rownd rhagbrofol saethu reiffl 50m 3 Safle’r dynion wedi dechrau’n barod, gyda Mike Bamsey’n cystadlu dros Gymru. Dyw’r bowlwyr ddim yn bell ar eu holau, fodd bynnag, ac mae trioedd y para-fowlio, pâr merched Anwen Butten a Caroline Taylor, a Rob Weale yn senglau’r dynion, i gyd allan yn chwarae bellach.

8.44: Dw i wedi cyfeirio eisoes am ddisgwyliadau yn y pwll i Gymru nes ymlaen, ac mae rheswm da am hynny. Fe fydd Carlin yn ôl ar gyfer cystadleuaeth y 400m dull rhydd heddiw gan obeithio ychwanegu ar yr aur a chipiodd hi yn y pellter hirach ddoe.

Mae Georgia Davies hefyd yn nofio yn ffeinal y 50m dull cefn, ac o gofio iddi ddod gael yr amser cyflymaf yn y rhagras gynderfynol a thorri record y Gemau ddwywaith ddoe, mae’n deg dweud mai hi fydd un o’r ffefrynnau os nad y ffefryn.

Fe fydd Daniel Jervis hefyd yn y pwll i Gymru ar gyfer ffeinal y 1500m dull rhydd i ddynion, tra ar y trac fe fydd Elinor Kirk yn mynd amdani yn ffeinal ras 10,000m y merched.

Yn ogystal â hynny mae’r cystadlu yn y decathlon a’r gymnasteg artistig i dimau yn dod i ben, gyda thîm Cymru’n edrych yn dda yn y gampfa ddoe – mae’r merched yn y trydydd safle hanner ffordd drwy’r gystadleuaeth, gyda’r bechgyn yn bedwerydd.

8.35: Bore da, a chroeso unwaith eto i flog byw golwg360 o Gemau’r Gymanwlad, gyda’r diweddaraf i chi ar sut mae’r Cymry’n gwneud yn eu cystadlaethau drwy gydol y dydd.

Mae hi am fod yn ddiwrnod llawn cystadlu unwaith eto heddiw gyda rhagor o nofio, athletau, gymnasteg, bocsio, saethu, bowlio lawnt, sboncen, badminton, reslo, tenis bwrdd, hoci … dw i wedi blino jyst yn teipio hynny i gyd!

Beth bynnag, fe ddown ni a’r diweddaraf i chi ar sut hwyl mae’r Cymry yn ei gael, gan obeithio y gallwn nhw ychwanegu at y pedair medal a enillodd y tîm ddoe, sy’n dod a chyfanswm Cymru i 22.

Jazz Carlin ddisgleiriodd fwyaf o enillwyr ddoe, gan gipio medal aur nofio yn yr 800m dull rhydd, ac fe fydd Cymru’n sicr yn gobeithio cael mwy o athletwyr ar y podiwm yn y pwll heddiw.