Mae dyn o wledydd Prydain ymhlith chwech o bobol sydd wedi’u harestio ar amheuaeth o smyglo cyffuriau o’r Deyrnas Unedig hanner ffordd rownd y byd.

Mae’r awdurdodau yn Awstralia wedi atal 18lb (8kg) o amffetaminau, sy’n werth o leia’ 20m doler Awstralia (£11m).

Fe gafodd y criw eu harestio ddoe yn dilyn ymchwiliad ar y cyd rhwng Heddlu West Mercia yn Lloegr; Heddlu Ffederal Awstralia, a heddluoedd yn nhaleithiau Queensland a Tasmania.

Fe gafodd pump o ddynion, yn cynnwys pedwar aelod o’r Rebels Motorcycle Club, eu harestio yn Queensland a Tasmania. Mae disgwyl iddyn nhw ymddangos gerbron llys heddiw ar gyhuddiadau yn ymwneud â smyglo, bod â chyffuriau yn eu meddiant, ac o fewnforio cyffur sydd wedi’i wahardd.

Mae Heddlu West Mercia Police wedi cadarnhau iddyn nhw arestio dyn 27 oed o Kidderminster yn Lerpwl ddoe. Fe gafodd ei holi, cyn cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu tra bod ymchwiliadau pellach yn digwydd.