Mae dau bysgotwr wedi’u hachub, ar ôl treulio naw awr ar rafft wedi i’w cwch suddo.
Roedd y pâr wedi bod yn nofio ym Môr y Gogledd, rhyw 12 milltir i’r dwyrain o Sunderland, pan darodd eu cwch yn erbyn rhywbeth yn y dwr ac yna suddo mor gyflym nes bod dim amser i alw am help.
Fe gafodd y ddau eu codi gan iot o’r Iseldiroedd ddiwedd y pnawn ddoe.
“Mae’r ddau bysgotwr bellach yn ddiogel ac yn iach, er eu bod nhw wedi cael dipyn o ysgytwad,” meddai llefarydd ar ran gwylwyr y glannau Humber.